Coronafeirws: Galw am gau ysgolion a phrifysgolion


Senedd Ieuenctid

Image caption

Mae’r 60 aelod o Senedd Ieuenctid Cymru rhwng 11 a 18 oed

Mae aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru yn galw am gau ysgolion, colegau a phrifysgolion er mwyn delio â haint coronafeirws.

Mewn llythyr at Lywodraeth Cymru maent yn dweud “bod cau ysgolion wedi profi i fod yn ffordd dda ddi-feddyginiaeth sy’n bosib i’w gweithredu”.

Dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru: “Tra gallai ysgolion gau yn y dyfodol agos, mae’r cyngor gwyddonol a’n safbwynt yn glir – byddai cau lleoliadau addysgiadol ar hyn o bryd yn gwneud fawr ddim i amddiffyn y mwyaf bregus gan gynnwys pobl hŷn a allai ddod yn ofalwyr plant.

“Rydym yn gweithio gyda’r sector addysg ar bob lefel i ddarparu gwybodaeth a chyngor. Mae’r cyngor diweddaraf ar ein gwefan.”

Mae’r llythyr yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o fod yn “amhendant ac aneglur” tra bod sefydliadau unigol a chyrff yn dod i benderfyniadau eu hunain.

Ychwanega’r llythyr: “Er bod plant a phobl ifanc ddim yn cael eu taro’n sâl iawn gan salwch o’r math yma maent yn dueddol o gael heintiau fel COVID-19 ac yn gallu ei basio i eraill.”

‘Atal dysgu wyneb yn wyneb’

Yn y cyfamser mae rhai prifysgolion wedi penderfynu atal addysgu wyneb yn wyneb hyd ddiwedd y flwyddyn academaidd.

Dywedodd Iwan Davies, Is-Ganghellor Bangor “bod y sefyllfa Covid-19 yn newid mor gyflym, ac yn unol â llawer o brifysgolion eraill, mae’r Pwyllgor Gweithredu wedi penderfynu atal yr holl addysgu wyneb yn wyneb yn syth, hyd ddiwedd y flwyddyn academaidd.

“Mae’r Brifysgol yn cymryd y camau hyn ar gyfer iechyd, diogelwch a lles staff, myfyrwyr a’r gymuned ehangach.

Image caption

Dywedodd Iwan Davies, Is-Ganghellor Bangor ‘na fydd dysgu wyneb yn wyneb yn digwydd”

“Er nad oes disgwyl i fyfyrwyr adael y brifysgol, mae’r wythnos bontio hon o addysgu wyneb yn wyneb i addysgu ar-lein yn rhoi cyfle ichi ddychwelyd adref os dymunwch, yn enwedig oherwydd y sefyllfa deithio sy’n newid yn barhaus. Ni fydd myfyrwyr sy’n dychwelyd adref dan anfantais.

“Mae’r wythnos bontio hon hefyd yn caniatáu i staff baratoi ymhellach ar gyfer addysgu ar-lein.”

Mae yna neges debyg gan Brifysgol Caerdydd – fe fyddan nhw’n cwblhau eu trefniadau terfynol ddydd Llun.

‘Aros adref am 7 diwrnod’

Ddydd Sul dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru na ddylai pobl ffonio gwasanaeth 111 fel y cam cyntaf bellach os ydyn nhw’n amau fod ganddyn nhw coronafeirws.

Yn hytrach maen nhw’n dweud y dylai pobl aros adref am saith diwrnod, a dim ond cysylltu â’r gwasanaeth iechyd os nad ydyn nhw wedi gwella o fewn yr amser hwnnw neu fod eu cyflwr yn gwaethygu.

Image caption

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gofyn i bobl beidio ffonio 111 yn syth bellach os oes ganddyn nhw symptomau

Dywedodd Cyngor Sir Merthyr Tudful y byddai Ysgol Gynradd Gymraeg Santes Tudful ar gau ddydd Llun am ddiwrnod, a hynny er mwyn i’r safle gael ei lanhau “oherwydd bod aelod staff wedi derbyn triniaeth feddygol am coronafeirws dros y penwythnos”.

Yn ogystal â hynny mae nifer o ddigwyddiadau, gwyliau a gemau chwaraeon yng Nghymru hefyd wedi cael eu canslo neu ohirio bellach, er nad oes gwaharddiad swyddogol wedi cael ei gyhoeddi eto.

Ddydd Sul roedd yna 34 achos newydd yng Nghymru yn cynnwys y cleifion cyntaf o Geredigion, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg, yn ogystal â rhagor o Flaenau Gwent, Caerffili, Sir Gâr, Abertawe, Caerdydd, Sir Fynwy a Chasnewydd.

Yn sgil yr haint mae nifer o wirfoddolwyr ar draws Cymru wedi dod at ei gilydd i gynnig cefnogaeth i bobl hŷn a bregus gan gynnwys hanner cant o wirfoddolwyr yn ardal Amlwch, Llaneilian, Pen-sarn, Rhos-y-bol, Rhos-goch a Phorthllechog.

Mewn neges dywedodd Llinos Wyn Williams bod gwirfoddolwyr wedi rhannu 1,000 o lythyron yn yr ardal ddydd Sul – llythyron oedd yn nodi manylion cyswllt gwirfoddolwyr a oedd ar gael i helpu pobl nad oedd yn gallu gadael eu cartref.

Yr eglwysi a’r capeli

Ddydd Llun Bydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn adolygu eu cyngor presennol i gapeli barhau i gynnal gwasanaethau.

Yn ôl Meirion Morris, Ysgrifennydd Cyffredinol yr enwad, fe benderfynodd tua thraean o 580 o gapeli’r enwad gau yn wirfoddol am y tro.

Dywedodd bod nifer o eglwysi wedi bod yn “arbrofi ar sut i gyrraedd pobl, sut i ymweld â phobl neu gysylltu â phobl ar y ffôn tra’u bod yn ynysu eu hunain”.

Mae gan gapeli’r Annibynwyr hawl i wneud penderfyniad drostyn nhw’u hunain – a ddydd Sul dywedodd y cyn-Ysgrifennydd Cyffredinol, y Parchedig Ddr Geraint Tudur wefan Twitter na ddylai unrhyw un deimlo’n euog.

“Os ydi canslo gwasanaeth ar y Sul mewn capel neu eglwys yn fodd i leihau risg i iechyd pobl neu, hyd yn oed, yn y pen draw i achub bywydau, yna mae o’r peth iawn i’w wneud. ‘Does dim angen teimlo’n euog am y peth. Byddwch ddoeth, gwnewch y peth call ac anghofiwch ‘heroics’!,” meddai.

Ar hyn o bryd, mae Undeb Bedyddwyr Cymru’n dweud na “welir unrhyw achos i ohirio unrhyw agweddau o waith arferol ein Heglwysi. Yn hynny, nodwn yr angen i bwysleisio hylendid personol, gan ddilyn y cyfarwyddiadau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru”.

Ond mae’r enwad yn pwysleisio y byddan nhw’n dilyn cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru.



BBC News

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *