Cais Rhif 10 am fwy o rymoedd gwario yn ‘chwerthinllyd’


Ben Lake

Image caption

Ben Lake ydy Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Geredigion

Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o “fethu” wrth ddefnyddio’u grymoedd presennol i helpu Cymru.

Dywedodd Ben Lake AS fod cais Rhif 10 am fwy o rymoedd i wario mewn meysydd datganoledig yn “chwerthinllyd” o ystyried yr holl “addewidion sydd heb eu gwireddu”.

Ond yn ôl cyn-Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb fe ddylai Llywodraeth y DU gael yr hawl i “gefnogi pobl ym mhob cornel o’r Deyrnas Unedig”.

Daw’r sylwadau wrth i Aelodau Seneddol drafod Mesur y Farchnad Fewnol yn San Steffan, allai roi’r hawl i Lywodraeth y DU wario mewn meysydd datganoledig ar ôl Brexit.

Dywedodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol Stephen Crabb mai nod y Mesur oedd “parchu’r ffiniau o fewn y Deyrnas Unedig”.

“Mae’r Mesur yn adlewyrchu’r ffaith ein bod ni’n deulu o genhedloedd o fewn Teyrnas Unedig. Ond mae’n cymryd camau i sicrhau nad yw’r ffiniau hynny yn troi’n rwystrau i fasnach na ffyniant,” meddai.

Ond dywedodd yr Aelod Seneddol Llafur, Stephen Doughty, fod y mesur yn “diystyru datganoli yn llwyr” trwy gymryd grymoedd mewn meysydd sydd, tan nawr, wedi cael eu datganoli i Fae Caerdydd.

‘Atal awdurdod cyfreithlon’

Yn ôl Mr Crabb, roedd y Blaid Lafur yn ceisio “rhwystro Brexit” gyda’u gwrthwynebiad i’r Mesur, a Phlaid Cymru a’r SNP yn ceisio “atal y Senedd etholedig hwn rhag cael awdurdod cyfreithlon” ym mhob rhan o’r DU.

“Pwrpas y mesur yw cydnabod bod gan Lywodraeth y DU dyletswydd i ofalu am bobl ym mhob rhan o’r DU – dylai hynny ddim bod yn rhywbeth dadleuol.”

Gwrthod hynny wnaeth Aelod Seneddol Ceredigion, Ben Lake.

“Mae’r awgrym bod gweinidogion y DU wedi cael eu hatal rhag cefnogi busnesau a chymunedau Cymreig gan ddatganoli yn esgus chwerthinllyd dros record ddiffygiol Llywodraeth y DU dros fuddsoddi yng Nghymru,” meddai.

Dywedodd bod yr addewidion blaenorol i drydaneiddio rheilffyrdd yng Nghymru, cynlluniau diffrwyth Morlyn Bae Abertawe, a’r methiant i sicrhau pwerdy niwclear newydd yn Ynys Môn yn dyst i’r llefydd lle allai San Steffan fod wedi gweithredu.

“Mewn meysydd allweddol o isadeiledd a buddsoddi economaidd, mae Llywodraeth y DU eisoes a grymoedd sylweddol i gefnogi busnesau a chymunedau Cymreig,” meddai Mr Lake.

Image copyright
PA

Image caption

Dywed Stephen Crabb fod angen sgyrsiau “llawer mwy manwl ynglŷn â dyfodol y cronfeydd”

Tra’n cefnogi’r Mesur, dywedodd Stephen Crabb fod lle gan ei lywodraeth i wella agweddau o’r berthynas gyda Llywodraeth Cymru, yn enwedig wrth lunio’r Gronfa Ffyniant sydd i fod i lenwi’r bwlch ariannol i ardaloedd tlotaf Cymru ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

“Dyw’r gwaith ddim yn dod yn ei flaen yn hanner ddigon cyflym o ystyried yr amserlen ar gyfer llenwi’r bylchau mewn arian Ewropeaidd,” meddai Mr Crabb.

“Mae angen mwy o eglurder a thryloywder ar ddyfodol y cronfeydd hynny. Er fy mod i’n cefnogi’r grymoedd yn y mesur y prynhawn yma, dwi’n teimlo o ran adeiladu ymddiriedaeth, adeiladu ewyllys da gyda’r llywodraethau datganoledig, fod angen sgyrsiau llawer mwy manwl ynglŷn â dyfodol y cronfeydd yma nawr.”



BBC News