Byddai cyrraedd Ewrop yn ‘newid ein clwb ni am byth’

9fc02fe0 1426 11ef 82e8 cd354766a224.jpg

Cafodd amddiffynnwr Penybont, Ryan Reynolds ei fagu yng Nghaernarfon, felly doedd o ddim yn siŵr gyda pha dîm y byddai’r teulu yn ochri.

“Dwi’m yn gwybod i fod yn onest. Yr ateb gora fedra i roi ydi, gobeithio y bydda nhw yna i wylio gêm fach dda rhwng dau dîm da!

“‘Da ni ar form reit dda ar y funud, os dwi’n cofio’n iawn ‘da ni ‘di mynd ryw saith neu wyth gêm heb ildio gôl, felly ‘da ni’n mynd fewn i’r gêm ar form reit dda, a dyna ‘da ni isio wrth fynd mewn i gêm fel ‘ma.”

Pe bai Penybont yn ennill y rownd derfynol, nid dyma fyddai’r tro cyntaf iddyn nhw chwarae yn Ewrop.

“O’dd chwarae yn Ewrop yn once in a lifetime experience, o’dd on anhygoel gallu chwarae a gweld pa mor fawr o’dd o i’r gymuned… O’dd chwarae yn Andorra yn brofiad anhygoel.

“Ond mi fydd dydd Sadwrn yn anodd, ma’ pob un o’ ni ‘di bod yn yr Oval digon o weithiau i glywed y math o sŵn sy’n gallu cael ei godi, ond dwi’m yn meddwl fydd neb ‘di profi’r fath o sŵn ‘da ni’n disgwyl ei glywed yfory.”

Bydd y gic gyntaf yn yr Oval am 14:45 dydd Sadwrn.


Source link

Views: 0
See also  Mark Drakeford loses temper with Plaid Cymru leader over funding

Check Also

020fe680 5e4b 11f0 be82 117161087dc9.jpg

Euro 2025: Wales defender Esther Morgan feared she would have to retire

A popular member of the Wales squad, Morgan has completed her recovery in some style …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime