Bron i un o bob pum siop yng Nghymru yn wag


Ar gau

image copyrightGetty Images

Mae bron i un o bob pum siop yng Nghymru bellach yn wag, yn ôl Consortiwm Manwerthu Cymru.

Cynyddodd y gyfradd siopau gwag yng Nghymru o 15.9% i 18% yn nhrydydd chwarter eleni, y naid fwyaf yn unrhyw le yn y DU.

Ond mae mwy o siopau annibynnol yn agor yng nghanol trefi, meddai arweinwyr busnesau lleol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod wedi darparu £90m ar ddechrau’r flwyddyn i gefnogi canol trefi.

Ychwanegodd ei fod wedi sicrhau bod £9m arall ar gael i helpu trefi i wella o’r pandemig coronafeirws.

  • Siopau gwag Caerfyrddin yn bryder i fusnesau lleol

  • Y Cymoedd a threfi glan môr ‘i ddioddef fwyaf’

Gogledd ddwyrain Lloegr, gyda 18.6%, oedd yr unig ranbarth yng ngweddill y DU i brofi cyfradd siopau gwag oedd yn uwch na Chymru.

Llundain oedd â’r ffigwr isaf gyda 10%.

Canolfannau siopa a’r strydoedd mawr sydd gyda’r nifer fwyaf o unedau gwag yng Nghymru, gyda 20.8% o safleoedd canolfannau siopa yn wag a 18.6% o siopau yn wag ar y stryd fawr.

Roedd gan barciau manwerthu y gyfradd isaf o 8.6%, ond roedd y ffigwr hwn wedi cynyddu o 6.9% yn ail chwarter y flwyddyn.

Pa fusnesau sy’n dioddef?

image copyrightGetty Images
image captionMae cwmni Edinburgh Woollen Mill Group yn berchen ar Peacocks, Jaeger a Bonmarche

Cwmni Peacocks o Gaerdydd yw’r diweddaraf i gwympo i ddwylo’r gweinyddwyr ddydd Iau, ac mae’n un o nifer a wynebodd drafferthion yn 2020.

Daw’r datblygiad bythefnos ar ôl i’w berchennog, grŵp Edinburgh Woollen Mill, hefyd roi ei siopau yn nwylo’r gweinyddwyr.

Yr adeg yma y llynedd, roedd y grŵp wedi achub cadwyn siopau Bonmarche rhag yr un ffawd, tra bod River Island a Topshop hefyd wedi cau siopau yng Nghymru.

Fe aeth y gadwyn ddodrefn a ffasiwn Laura Ashley i ddwylo’r gweinyddwyr ym mis Mawrth, gan arwain at gau ei ffatri yn y Drenewydd, Powys ym mis Mehefin.

Rhybuddiodd Debenhams ym mis Ebrill y byddai’n cau pedair o’i siopau yng Nghymru mewn anghydfod ynghylch cyfraddau busnes.

Mae gan Aberdâr ‘y potensial i ffynnu’

image copyrightGetty Images

Mae rhai trefi, fel Aberdâr yn Rhondda Cynon Taf, yn gartref i sawl siop sydd yn nwylo cwmni EWM ac yn wynebu colli nifer ar yr un pryd os nad yw’r cwmni’n cael ei achub.

Dywedodd Dawn Penny, rheolwr Ein Aberdâr – ardal gwella busnes y dref, ei bod yn obeithiol y gallai’r dref ffynnu er gwaethaf y bygythiad y byddai tair siop yn cau.

Gallai Peacocks, Bonmarche a New Look – sydd i gyd o fewn ychydig gannoedd o lathenni i’w gilydd ar Stryd Caerdydd yn y dref – gau i gyd.

“Mae pawb yn sylwi arno [pan mae siopau’n cau],” meddai. “Yn amlwg mae’n newid, ond trwy newid gallwch fachu cyfle.

“Nid Aberdâr yn unig ac nid Cymru yn unig, ac rwy’n credu bod newid yn digwydd oherwydd y pandemig… mae’r teimlad ymhlith perchnogion busnes annibynnol yn gadarnhaol iawn ar hyn o bryd.”

Dywedodd Ms Penny y gallai rhai siopau gwag fod yn rhy fawr a chyfraddau busnes yn rhy uchel i fod yn ddeniadol i fusnesau llai, ond y gallent gael eu rhannu’n unedau llai er mwyn eu llenwi.

“Rwy’n bendant yn credu bod gan Aberdâr y potensial i ffynnu,” ychwanegodd.

‘Dafydd a Goliath’

Mae’r teimlad cadarnhaol ymhlith perchnogion busnes annibynnol yn Aberdâr yn un sy’n cael ei ailadrodd mewn rhannau eraill o Gymru, meddai Pam Poynton o ardal gwella busnes Bangor.

image copyrightGetty Images
image captionSiop Peacocks wedi iddi gau ym Mangor ym mis Medi

Dywedodd Ms Poynton fod y ddinas, sy’n gartref i stryd fawr hiraf Cymru, wedi gweld Topshop, H&M a’r Body Shop yn cau yn ddiweddar, ond bod eu gofodau wedi eu llenwi gan siopau annibynnol.

Meddai: “Mae gennym lawer mwy o bobl yn cymryd siopau llai ac mae’r rhai mawr yn rhyw fath o fynd. Mae ychydig fel sefyllfa Dafydd a Goliath.

“Mae’n ymddangos bod y siopau llai yn rhagori ar y siopau mwy ar hyn o bryd. Rwy’n credu bod pobl yn cefnogi’r siopau lleol, ac mae’n debyg nawr bod pobl yn meddwl, os ydyn nhw am i siop aros ar agor, mae’n rhaid iddyn nhw ei chefnogi.

“Rwy’n credu weithiau bod pobl yn ofni newid a gyda Covid nid ydym yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd. Ond mae’n ymddangos nad yw’r pethau yr oedd pobl wedi eu rhagweld yn digwydd ar hyn o bryd. Rydyn ni wedi cau rhai siopau ond mae gennym ni rai newydd yn agor.”

Yn Llandudno, sir Conwy, dywedodd y mentor busnes Peter Denton fod y dref wedi “goroesi’r dyfroedd manwerthu stormus” yn well na’r mwyafrif.

Dywedodd y bu symudiad tuag at siopau coffi a the ar y stryd fawr ond bod yno “lawer llai o siopau gwag na’r mwyafrif o drefi”.

Ychwanegodd fod safle cymharol ynysig y dref ar arfordir gogleddol Cymru wedi ei helpu i gadw rhai busnesau, a allai fod yn fantais yn y dyfodol.

‘Angen busnesau mawr a bach’

Dywedodd Sara Jones, pennaeth Consortiwm Manwerthu Cymru, ei bod yn bwysig bod busnesau yn gallu aros ar y stryd fawr, a bod cymysgedd o gadwyni a siopau annibynnol yn hollbwysig.

image captionDywed Sara Jones fod angen i ardaloedd siopa gynnig cymysgedd o gadwyni a siopau annibynol

“Rydyn ni’n credu y bydd cau cadwyni yn cael effaith fawr, yn yr ystyr bod y stryd fawr yn dibynnu ar fod yn safle manwerthu aml-gynnig,” meddai.

“Mae’n her oherwydd pan gollwn ni un o’r rhain mae yna ganlyniadau sy’n dilyn. Mae’n cael effaith fawr ar y gymuned honno oherwydd bydd llawer o’r siopau hynny’n gyflogwyr mawr.”

Ychwanegodd: “Mae cael gwahanol fathau o fusnesau yn fwy defnyddiol ac yn fwy deniadol. Ni ddylai ymwneud â denu llai o siopau mawr a dod â mwy o gwmnïau annibynnol i mewn… os ydym am weld stryd fawr wedi’i hadfywio mae’n rhaid i ni gael y ddau.

“Fe allen ni weld stryd fawr sy’n fywiog o hyd ond mae’n [dibynnu ar] faint nawr mae’r llywodraeth yn edrych tuag at gynllun adfer sy’n rhoi manwerthu yn gyntaf.”

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi darparu cyllid i wella mwy na 50 o ganol trefi ledled Cymru.

Dywedodd llefarydd: “Fe gyhoeddon ni £ 90m o gefnogaeth ychwanegol i ganol trefi trwy ein cynllun Trawsnewid Trefi ar ddechrau’r flwyddyn.

“Rydym hefyd wedi sicrhau bod hyd at £9m ar gael i gefnogi canol trefi i wella o’r pandemig coronafeirws, gan alluogi addasiadau canol tref i gefnogi’r amgylchiadau presennol a hefyd er mwyn gyrru nifer yr ymwelwyr yn y dyfodol.”

More on this story



BBC News