google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Brian Hughes: Stori ffoaduriaid yn ysbrydoliaeth i’w waith

Advertisements

Mae darn o gerddoriaeth newydd gan y cyfansoddwr Brian Hughes yn cofio hanes ffoaduriaid a ddaeth i Gymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac hefyd yn talu teyrnged i ddawn Dr Caradog Roberts fel cyfansoddwr.

Bydd y darn Prelude and Fugue on Louvaine yn cael ei pherfformio gan y pianydd Llŷr Williams yng Ngŵyl Gerdd Bangor sy’n cael ei chynnal yng Nghanolfan Gelfyddydau Pontio ar ddydd Sadwrn a dydd Sul, 14-15 Chwefror 14.

Bu Brian Hughes yn siarad gyda Cymru Fyw am yr ysbrydoliaeth tu ôl i’r gwaith.

Yn ôl y cerddor, ysbrydolwyd Prelude and Fugue on Louvaine gan stori ffoaduriaid o Wlad Belg a ddaeth i Gymru o ddinas Louvain ar ôl iddi gael ei dinistrio’n llwyr gan fyddin yr Almaen yn 1914.

Dywedodd Brian, sy’n byw yng Ngresffordd: “Canfodd ffoaduriaid o’r ddinas ddiwylliannol honno y ffordd i Rosllannerchrugog a chawsant eu cartrefu yng Nghapel Bethlehem, lle’r oedd Dr Caradog Roberts yn organydd.

“Cyhoeddodd yr emyn Louvaine yn 1916, ac mae’n sail i’r preliwd a’r ffiwg hwn. Mae Llŷr yn aelod o’r capel, sy’n ei gwneud yn ddewis addas i’w berfformio.”

Mae’r cyfansoddwr a’r pianydd wedi’u huno gan gysylltiadau teuluol hefyd wedi i Brian fynychu’r ysgol gyda thad Llŷr, Gwyn.


BBC News

Views: 2

See also  'Addasiadau' eleni yn sgil hinsawdd ariannol ond mae'n 'Steddfod sbeshal'

Check Also

Cyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig eisiau bod yn Llywydd nesaf y Senedd

Mae cyn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies, wedi cadarnhau y byddai’n hoffi bod yn …

Wrexham’s summer in-tray: Contracts, transfers, loan decisions and fine-tuning

Having signed 13 players last summer to overcome the gap from League One to the …

Aaron Wainwright bids farewell in final Dragons home game

Dragons have now lost two on the bounce, after last week’s tight loss away at …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime