Blwyddyn o fyw ar Enlli


Ydych chi erioed wedi breuddwydio am adael popeth a mynd i fyw ar ynys? Dyma gofnod Mari Huws o’i deuddeg mis cyntaf hi a’i phartner Emyr Glyn Owen o fyw ar Ynys Enlli – blwyddyn hynod o stormydd cryfion, machlud rhyfeddol a phandemig byd-eang a’u gwnaeth yn falch o gwmni’r morloi.

line

Fis Medi 2019, mi wnes i ac Emyr bacio ein bywydau mewn bocsus carbod a croesi’r Swnt i ddechrau ein swyddi newydd fel Wardeniaid Ynys Enlli.

Mae hi’n amhosib i grynhoi deuddeg mis o fywyd yma mewn llond llaw o luniau – ond dyma agor cil y drws ar flwyddyn o fyw ynghanol yr elfennau ar Enlli.

Mae Enlli yn ynys fach sydd wedi ei lleoli ddwy filltir oddi ar drwyn Pen Llŷn. Mae ‘na gymuned o 11 ohonom yn byw yma am naw mis o’r flwyddyn, ond dim ond fi ac Emyr sydd yma dros y gaeaf.

Medi

Mari yn cario bocsys i mewn i'r tŷImage copyright
Emyr Owen

Medi 22, 2019 oedd ein diwrnod cyntaf. Dyma fi’n cario un o ddegau o focsus i mewn i Dŷ Capel, ein cartref cyntaf dros dro ar yr ynys. Diwrnod cyn y cyhydnos, a’r haf yn brysur ddirwyn i ben.

Ar ôl tair wythnos yn sortio a pheintio, mi wnaethon ni symud o Dŷ Capel i Tŷ Bach, ein cartref newydd, ar Hydref 12.

Hydref

czImage copyright
Mari Huws

Mae’r tir yn cael ei ffermio, y môr o amgylch yr ynys yn cael ei bysgota a mae ‘na Wylfa Adar yma sydd yn gwarchod a monitro’r bywyd gwyllt. Ni sydd yn cynnal a chadw’r tai a’r gerddi sydd ar gael i bobl ddod i aros ynddynt o fis Ebrill i Hydref.

Mae holl systemau Enlli off grid, y dŵr yn llifo’n syth o’r ffynnon sydd uwch law y tŷ a’r trydan yn cael ei gynhyrchu gan egni solar a gwynt. Ma’ na Rayburn yn ein cartref ni hefyd, er mwyn cael gwres a dŵr poeth, bob dim sydd angen i wneud cartref clyd…. er fod y lle chwech yng ngwaelod yr ardd!

Tachwedd

czImage copyright
Mari Huws

Emyr a fi’n ffarwelio efo ein cymdogion ar Tachwedd 14. Roedden nhw’n mudo i’r tir mawr tan fis Mawrth.

czxImage copyright
Mari Huws

Dyma ddechrau ein cyfnod o fod ar yr ynys ar ein pen ein hunain am bump wythnos, tan i ni fynd adra am y Nadolig.

Mae’r ynys yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI) ac yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol – felly am lwmp bychan o graig ynghanol môr oer Iwerddon, mae’n lle anhygoel i fyw!

czxImage copyright
Mari Huws

Ar ôl wythnos yn gosod cysgod gwynt chwe troedfadd o daldra mewn rhesi bob 12 metr fyny’r cae, mi wnaethon ni blannu 150 o goed afalau mewn tridiau – perllan gyntaf Enlli!

Rhagfyr

zxcImage copyright
Mari Huws

Mwynhau cael yr ynys i ni ein hunain – p’nawn Sul yn nofio yn y Cafn ar lanw uchel ar Rhagfyr 1.

zcxImage copyright
Mari Huws

Dyma Emyr yn hel gwymon oedd wedi ei adael ar hyd draeth Solfach ar ôl storm ar Ragfyr 8. Mi wnaethom ei adael yn drwch ar ddarn o dir yr oeddem wedi ei glirio ar gyfer adeiladu pollytunnel yn y flwyddyn newydd. Gwrtaith anhygoel!

czxImage copyright
Mari Huws

Cwpwl o ddyddiau cyn diwrnod byraf y flwyddyn, mi oedd yr haul yn machlud tu ôl i’r goleudy wrth i ni adael yr ynys am y Nadolig.

Ionawr

czxImage copyright
Mari Huws

Ebyn i ni ddychwelyd i’r ynys ar ôl y Nadolig, mi roedd hi’n dipyn fwy gaeafol. Dyma Ystwffwl Las, ar arfordir gorllewinol yr ynys ar Ionawr 27.

Chwefror

czxImage copyright
Mari Huws

Roedden ni’n brysur bob awr o olau dydd yn peintio neu lanhau drwy fis Chwefror wrth i ni ddechrau ailagor y tai ar gyfer y tymor ymwelwyr – ond yr her fwyaf oedd adeiladu’r pollytunnel yn ystod dwy storm! Mi lwyddodd Dad i groesi ddiwedd y mis i roi help llaw efo’r holl waith.

Tonnau gwyllt ar y môrImage copyright
Mari Huws

Y môr yn wyllt wedi i Storm Dennis a Ciara chwipio’r ynys. Gwyntoedd dychrynllyd o gryf a dim un llun yn medru dal grym y môr.

dsaImage copyright
Mari Huws

Y cennin Pedr yn dod â lliw i’r ardd ar Chwefror 29 ac yn addewid o’r gwanwyn oedd o’n blaenau!

Mawrth

Mari yn paentio'r llawrImage copyright
Mari Huws

Erbyn Mawrth 15 roedden ni’n paratoi am y tymor. Dyma fi’n peintio llawr ystafell fyw un o’r 10 o dai sydd angen eu cael yn barod erbyn dechrau’r tymor. Gan fod y tai yn hen a dim gwres ynddynt dros y gaeaf, ma’ na dipyn o waith i’w cael nhw’n glyd erbyn Ebrill!

Edrych allan dros yr ynys a'r machludImage copyright
Mari Huws

Dyma fachlud cyntaf y cyfnod clo ar Mawrth 24, pythefnos cyn diwrnod cyntaf y tymor. Erbyn hyn mi roedd ein cymdogion wedi dychwelyd i’r ynys, ond wyddai neb mai dim ond ein gilydd yr oeddem am eu gweld am y tri mis nesaf.

Ebrill

ar y tractorImage copyright
Mari Huws

Pandemig neu ddim, mi roedd dal angen plannu tatws! Gareth Roberts, y ffarmwr sydd yn gyrru’r tractor ac Ela ei wyres, wnaeth aros yma drwy’r cyfnod clo, sydd ar y cefn efo Emyr!

Ar y cwch yn hel cimychiaidImage copyright
Mari Huws

Heb ymwelwyr i’r ynys, mi agorodd pocedi hudolus o amser i wneud yr holl bethau nad oes fel arfer amser ar eu cyfer. Mi ddechreuon ni gimycha, yn gyntaf oddi ar y creigiau ac wedyn allan ar gwch fach efo Gareth.

NofioImage copyright
Mari Huws

Dysgu bod yn amyneddgar, Ebrill 20. Rhwng y cyfarfodydd Zoom a’r trafodaethau am gynlluniau a chanllawiau Covid mi roeddwn yn medru denig i’r môr i fyfyrio.

Mewn cyfnod ansicr mi roedd yn anhygoel byw mor agos at fywyd gwyllt.

Mai

Ty gwydrImage copyright
Mari Huws

Emyr yn y pollytunnel yn edrych ar ffrwyth ein llafur ar Mai 18. Mi ffrwydrodd y llysiau mis Mai, ac mi oedd eu gwylio’n tyfu yn brawf fod amser yn pasio, er fod bob dydd yn medru teimlo ‘run fath heb ddim mynd a dod i’r ynys!

Torri gwalltImage copyright
Mari Huws

Nid y llysiau yn unig oedd yn tyfu!

Ar y cwch melynImage copyright
Mari Huws

Diwedd Mai ac allan efo Gareth Roberts ar ei gwch, Gladys, yn pysgota am fecryll. Er mai llond bocs o forleisiaid (pollack) y gwnaethon ni eu dal.

Mehefin

MorloImage copyright
Mari Huws

Yn ystod y cyfnod clo mi roeddwn i heb os yn gweld gymaint mwy o anifeiliad gwyllt na phobl. Mae wastad yn brofiad arallfydol i nofio efo’r morloi.

Ar y creigiauImage copyright
Mari Huws

Ar ochr ddwyreiniol y mynydd mae coloni o adar môr yn nythu – llurs, palod, gwylanod, adar drycin Manaw, bilidowcars a guillemots. Ma hi’n arallfydol yno am ffenestr fach o’r flwyddyn pan mae’r holl adar sydd fel arfer yn byw ei bywydau ar y môr yn dod i’r tir i nythu. Mi fuo ni yno sawl gwaith yn helpu’r Wylfa Adar gyda’u gwaith monitro.

Gorffennaf

Llysiau mewn bocsImage copyright
Mari Huws

Ar Orffennaf 6 mi gododd y cyfyngiadau teithio yng Nghymru – deuddydd wedyn mi roeddem yn croesawu ein teuluoedd i’r ynys am y tro cyntaf ers misoedd. Dyma focs llysiau o’r ardd ro’n i wedi paratoi iddynt.

Nofio mewn baeImage copyright
Gwyn Huws Jones

Nofio yn Ogof Las ar Gorffennaf 16 – braf cael rhannu’r môr a’r dyddiau braf efo fy nheulu. Dyddiau i’w trysori wedi cyfnod mor hir ar wahân.

Y cwch yn y cafnImage copyright
Mari Huws

16 wythnos yn hwyr, ond ar ddydd Sadwrn 25 Gorffennaf mi wnaethon ni groesawu ein hymwelyr cyntaf i’r tai a mi wnaeth Enlli agor i’r byd am y tro cyntaf yn 2020!

Awst

Llysiau wed tyfu yn y ty gwydrImage copyright
Mari Huws

Awst 1 a’r pollytunnel wedi tyfu yn wyllt a’r holl fwyd ohono wedi bod yn anhygoel.

Machlud haul dros y dwrImage copyright
EmYR oWEN

Gwylio’r haul yn codi dros y Swnt ar Awst 24 – chwe wythnos i mewn i’r tymor a chwe wythnos i fynd tan i ni ffarwelio gyda’r ymwelwyr am chwe mis arall.

Os am weld mwy ewch i Instagram: @bywarenlli

Hefyd o ddiddordeb:





BBC News