Araith Seren Jones yn ‘pigo cydwybod’ medd Aled Roberts


, Araith Seren Jones yn ‘pigo cydwybod’ medd Aled Roberts

Image caption

Fe ddechreuodd Aled Roberts ar ei rôl fel Comisiynydd y Gymraeg y llynedd

Does dim digon o blant o gefndiroedd ethnig gwahanol yn ein hysgolion Cymraeg ni yn ôl Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts.

Yn ystod ei daith o gwmpas ysgolion Cymru’r llynedd mae’n dweud mai “prin iawn oedd yr ymwneud nes i efo lleiafrifoedd ethnig.”

Tra ei fod wedi sylwi ar fwy o drawsdoriad dosbarthiadau cymdeithasol yn ardal Wrecsam, ar ôl bod yn llywodraethwr am flynyddoedd, bach yw’r niferoedd yn dal o safbwynt amrywiaeth ethnig ar draws y wlad meddai.

Mae’n sôn am un ysgol Gymraeg yng Nghaerdydd lle’r oedd y niferoedd yn arfer bod yn fychan ond maent wedi cynyddu erbyn hyn.

Neges anghywir

Un o’r rhesymau meddai oedd bod yna argraff wedi ei greu bod yn rhaid i’r plant fod yn medru siarad yr iaith cyn dechrau yn yr ysgol.

“Lle yn union oedd y neges yna wedi cael ei dderbyn Duw a ŵyr.

“Hwyrach bod y neges ddim wedi cael ei gyfleu mewn unrhyw ffordd ond yn amlwg mi oedd yna agwedd wedi cael ei greu. Dydy hynny ddim jest yn wir ymysg y lleiafrifoedd ethnig.

“Mae ‘na feddylfryd felly wedi bod yn draddodiadol o fewn cymunedau gwyn yn y dwyrain lle o’n nhw wastad yn meddwl bod yr ysgolion cyfrwng Cymraeg ar gyfer plant oedd eisoes yn siarad Cymraeg ar yr aelwyd.

“Dydy o ddim o angenrheidrwydd yn ymwneud a hil ond yn amlwg mae hynny yn ffactor arall i ni ystyried wrth i ni drafod yr achosion yma,” meddai.

Oblygiadau’r ffaith bod y niferoedd o blant o gefndiroedd ethnig yn is yn yr ysgolion Cymraeg meddai yw bod cyrff Cymraeg wedyn yn eu tan gynrychioli.

“Y gwir amdani ydy os ydych yn edrych ar ffigyrau, mae hynny yn fwy o her i sefydliadau sydd yn ymwneud â’r Gymraeg, nid o achos bod ‘na agwedd hiliol o fewn y sefydliadau yna o angenrheidrwydd, er mae rhaid i ni fod yn ofalus ynglŷn â hynny hefyd, ond o achos mae niferoedd o fewn y cymunedau ethnig sydd yn mynychu ysgolion Cymraeg dal yn llai fel canran na beth ydy canran y gymuned yna o fewn y boblogaeth yn ei gyfanrwydd.

Image copyright
Getty Images

Image caption

Wnaeth Aled Roberts ddim dod ar draws nifer o blant o gefndiroedd ethnig pan aeth ar daith o gwmpas ysgolion Cymru y llynedd

“Felly mae yn fwy o her i sefydliadau. Mae o yn rhywbeth mae’n rhaid i ni fynd i’r afael ag o.”

Mae Swyddfa’r Comisiynydd wedi bod yn trafod y mater gyda chyrff fel Race Alliance Wales er mwyn ceisio deall pam bod llai o gefndiroedd ethnig yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg ac os oes yna gamau sydd angen eu cymryd i newid pethau.

‘Pigo’r cydwybod’

Roedd y Comisiynydd yn siarad gyda Cymru Fyw yn sgil araith Llywydd y dydd yng ngŵyl AmGen ddydd Sadwrn, Seren Jones.

  • Cymry’n rhy “amddiffynnol” o’i hunaniaeth
  • Araith Llywydd y Dydd: Seren Jones

Mae Seren Jones, sydd yn ohebydd gyda’r BBC yn Llundain, yn dweud bod angen i’r Cymry beidio bod mor “amddiffynnol am ei hunaniaeth” ac yn fwy agored i groesawu pawb.

Yn ôl Aled Roberts mae’r araith yn un “amserol” sydd yn “pigo ar ein cydwybod ni” ac yn dangos bod y drafodaeth Black Lives Matter yn berthnasol i ni’r Cymry Cymraeg.

Image copyright
Seren Jones

Image caption

Mae Seren Jones yn teimlo bod nifer ddim yn sylweddoli bod yna Gymry Cymraeg o gefndiroedd ethnig yn bodoli

Mae’n sôn am gymunedau fel Caerdydd a Chasnewydd lle mae cymunedau o leiafrifoedd ethnig wedi bodoli ers blynyddoedd.

“Ac eto mae’n glir bod yna dal i fod heriau o ran y ffordd mae’r cymunedau yna yn dod yn rhan o’r gymuned yn fwy cyffredinol ac wedi bod, bod yna raniadau o fewn y cymunedau yna.”

‘Ansicrwydd’ mewn cymdeithas

“Ac wrth gwrs beth sydd wedi digwydd wrth i bobl o gefndiroedd eraill ddod mewn i ardaloedd eraill yng Nghymru ac wrth i fewnfudo gynyddu, mae hynny yn creu sialensiau o fewn ardaloedd hwyrach sydd ddim wedi arfer efo’r math yma o symud yn y gorffennol,” meddai.

Yn ôl y Comisiynydd mae’r ffaith bod cymdeithas yn newid a phobl yn symud i mewn ac allan yn creu “ansicrwydd.”

Mae’r tensiynau meddai yn bodoli o fewn y cymunedau ethnig eu hunain hefyd weithiau.

Image copyright
Thinkstock

Image caption

Mae ardaloedd yng Nghymru wedi bod yn llefydd gyda thai haf ers blynyddoedd

“Dwi’n siŵr os fysa chi yn siarad efo pobl o wlad Pwyl neu o Bortiwgal bod eu profiadau nhw yn dibynnu ar faint o ymwneud sydd gan bobl yn lleol efo pobl o gefndiroedd gwahanol.

“Ac wrth i’r sefyllfa newid yn gyflym iawn, fel gwelwyd yn yr ardal yma (Wrecsam) ym mlynyddoedd cynnar y ganrif yma, y gwir amdani yw bod hynny yn creu ansicrwydd.

“Mae’n creu rhyw fath o bryder ac mae’n ddyletswydd ar bawb i ddeall hynny. Does ‘na ddim lle i gyfiawnhau ymateb felly ond mae’n rhaid i ni fod yn onest am beth yn union ydy’r sefyllfa.”

“Dyw mewnfudo ddim yn rhywbeth newydd ond mae yna drafodaeth yn digwydd rŵan tra bod y pwnc wedi ei sgubo dan y carped” yn y gorffennol.”

Er hynny mae’n dweud bod y polisïau i daclo materion fel sicrhau tai i bobl ifanc lleol a gwaith iddyn nhw yn eu cymunedau yn dal ddim wedi eu gweithredu.

“https://www.bbc.co.uk/”Da ni yn dal yn sôn am y pethau yma. Mae ‘na ymdrechion yn cael eu gwneud, dwi ddim yn cwestiynu hynny ond os ydy’r ymdrechion yna yn ddigonol, mae’r cwestiwn yna yn dal i fodoli.”

Addysg Gymraeg i bawb

Rhaid i’r polisïau fod yn rhai canolog sydd ar draws y llywodraeth a ddim yn rhywbeth ymylol, meddai.

Yn ystod ei haraith mae Seren Jones hefyd yn dweud nad yw hi yn ffitio categori cymdeithas o berson “Cymreig” oherwydd lliw ei chroen.

Un ateb yw sicrhau bod addysg Gymraeg ar gael i bawb meddai’r Comisiynydd ond nid dyna’r sefyllfa ar hyn o bryd.

“Mae hynny yn wir o fewn, nid yn unig cymunedau ethnig, ond o fewn cymunedau difreintiedig lle mae ‘na lot o dystiolaeth yn dangos bod teuluoedd sydd ddim efo car a ddim efo mynediad at addysg Gymraeg o fewn taith gerdded i’r cartref yn llai tebygol o wneud y dewis dros addysg Gymraeg.”

Ond rhaid i ni hefyd meddai “gwestiynu ein hagweddau ni a’n meddylfryd ni yn bersonol”.



BBC News