google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Angen codi ymwybyddiaeth am y peryglon i fenywod beichiog ag adenomyosis

Advertisements

Cyn cael diagnosis, roedd symptomau Ms Boocock mor wael, fel bod yn rhaid iddi ddefnyddio ffon gerdded yn rheolaidd.

Mae hi hefyd wedi cael diagnosis o endometriosis.

“Ro’n i’n colli gwaed bob pythefnos, roedd fy lefelau haearn yn beryglus o isel, a doedd gen i ddim egni i wneud unrhywbeth.”

Ar y dechrau roedd y boen yn ei chlun, ac yn cydfynd â’i chylch misol. Ond yn ddiweddarach fe ddatblygodd yn broblem boenus, gyson.

Mewn apwyntiadau meddygol, roedd hi’n clywed ei fod “yn rhan o fod yn fenyw” neu “IBS siwr o fod”. Cafodd sawl presgripsiwn ar gyfer y bilsen atal-genhedlu – rhai nad oedd yn cytuno â hi.

Ar ôl blynyddoedd o ddioddef, fe dalodd am lawdriniaeth hysterectomi, a chadw ei ofarïau.

“Ar un adeg, pan o’n i mor sâl cyn fy llawdriniaeth, ro’n i’n cael teimladau hunanladdol.

“Ond pan weles i gynaecolegydd NHS o’r diwedd, a gofyn i gael fy rhoi ar restr am hysterectomi, dywedodd yr ymgynghorydd: ‘ti’n rhy ifanc, fe fyddi’n colli dy ffrwythlondeb’…

“O’n ro’n i eisiau ansawdd i fy mywyd.”

Mi all llawdriniaeth hysterectomi gael gwared ar symptomau adenomyosis, ond nid yw’n gwella endometriosis.

Dri mis ar ôl cael ei llawdriniaeth, mae Lana’n dweud bod “bywyd yn ffantastig”.

“Hoffwn i pe bai’r afiechydon yma’n cael eu cymryd fwy o ddifri’,”meddai.


BBC News

Views: 0

See also  Dau ddyn yn ddieuog o gynllwynio i ladd gwraig un ohonynt

Check Also

Former first minister Mark Drakeford says Andy Burnham should be PM

Mark Drakeford says Andy Burnham should be prime minister if he wins the Makersfield by-election. …

Rat droppings and gnawed food packets leave shop with £9k fine