google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Amhosib’ rhedeg fferyllfa oherwydd y costau cynyddol

Advertisements

Mae fferyllydd arall o Geinewydd yng Ngheredigion yn dweud ei fod wedi derbyn llythyrau bygythiol gan gwmnïau benthyciadau ar ôl mynd i ddyled o £145,000 wrth geisio cadw ei fusnes ar agor.

Mae sefyllfa ariannol Tunde Olawoye, 54, wedi gwaethygu’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae’n “teimlo’n ofnus bob mis” wrth feddwl am sut y bydd yn fforddio talu ei staff.

Dywedodd Mr Olawoye fod y busnes yn gwneud yn “iawn” i ddechrau, ond sylweddolodd yn fuan fod ei gostau cyffredinol yn fwy na’i dâl.

Dywedodd fod y cynnydd diwethaf o 4% i’r CPFC yn “swnio fel cymaint”, ond “nad yw’n gwneud llawer o wahaniaeth mewn gwirionedd”.

“Dyw e ddim yn gynaliadwy o gwbl,” meddai.

“Mae angen iddyn nhw fuddsoddi mwy yn y proffesiwn oherwydd ni yw rheng flaen y maes iechyd yn y wlad yma.”


BBC News

Views: 2

See also  Cymru 'erioed wedi trafod' cael tîm dynion Prydain yn 2028

Check Also

Dedfrydu dyn o Fôn wedi digwyddiad mewn gêm bêl-droed ym Mhorthmadog

Dywedodd Diane Williams, ar ran yr erlyniad, bod Taylor wedi taro Brookwell â’i benelin tra …

Dirwy i nyrs yng Ngwynedd am ymosod ar gymydog mewn ffrae am barcio

Clywodd y llys fod yna hanes o “ddrwgdeimlad” rhwng Sharman a’i chymdogion ar draws y …

James and Bradley among six uncapped Wales call-ups

Exeter back rower Kane James and Harlequins centre Bryn Bradley are among six uncapped Wales …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Making digital tools accessible for everyone.