Abertawe’n arwyddo’r asgellwr Jamal Lowe o Wigan


Jamal Lowe featured in both Wigan's games against Swansea last seasonImage copyright
Huw Evans Agency

Image caption

Chwaraeodd Jamal Lowe (chwith) ddwy waith yn erbyn Abertawe y tymor diwethaf

Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi arwyddo asgellwr Wigan Athletic, Jamal Lowe.

Credir bod y ffi o gwmpas £800,000 i ddechrau, gyda thaliadau pellach i ddod.

Lowe yw’r pumed chwaraewr newydd i arwyddo i’r Elyrch yn ddiweddar, yn dilyn dyfodiad Korey Smith, Freddie Woodman, Morgan Gibbs-White a Marc Guehi i Stadiwm Liberty.

Cafodd cynnig agoriadol Abertawe o £500,000 ei wrthod gan Wigan.

Sgoriodd Lowe, sy’n 26 oed, chwe gwaith mewn 48 o gemau i Wigan y tymor diwethaf ar ôl arwyddo o Portsmouth yn 2019, lle sgoriodd 30 o goliau mewn 119 o ymddangosiadau.

Disgynodd Wigan o’r Bencampwriaeth y tymor diwethaf, ar ôl colli 12 pwynt fel cosb am fynd i ddwylo’r gweinyddwyr, ac mae nifer o’u chwaraewyr wedi symud ymlaen i glybiau eraill, yn cynnwys chwaraewr Cymru, Kieffer Moore, sydd wedi arwyddo i Gaerdydd.



BBC News