google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Disgwyl canlyniadau TGAU ar drothwy diwygio’r drefn

Advertisements

Dywedodd Ian Morgan, prif weithredwr prif fwrdd arholi Cymru CBAC, ei fod yn disgwyl i ganlyniadau TGAU eleni fod yn debyg i flynyddoedd cyn Covid-19.

Roedd y disgyblion blwyddyn 11 gymerodd eu TGAU yn yr haf wedi symud o’r ysgol gynradd i ysgol uwchradd pan darodd y pandemig yn 2020.

“Rwy’n credu ein bod ni wedi gweld rhai heriau dros y pedair neu bum mlynedd diwethaf a dyma’r tro cyntaf gall dysgwyr ddangos eu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau mewn ffordd sydd ddim wedi’i heffeithio gan unrhyw newidiadau eraill yn y gorffennol,” meddai.

Roedd y broses o ddychwelyd yn ôl i’r drefn ‘normal’ ar ôl y pandemig yn fwy graddol yng Nghymru nag yn Lloegr.

Gwahaniaeth arall rhwng y ddwy drefn yw bod graddau TGAU yng Nghymru yn A* i G, tra bod gan Loegr system rhifau 9 i 1.

Mae newid mawr ar y gweill i gymwysterau yng Nghymru o fis Medi i gydfynd gyda’r cwricwlwm newydd sydd wedi cael ei gyflwyno mewn ysgolion ers tair blynedd.

Ymhlith y don gyntaf o ddiwygiadau o fis Medi mae TGAU newydd sydd yn cyfuno Cymraeg iaith a llenyddiaeth a Cymraeg Craidd – cymhwyster newydd ail iaith.

Dywedodd Mr Morgan fod y diwygiadau yn “gyfle cyffrous iawn i ddysgwyr”.


BBC News

Views: 1

See also  Chepstow family ordered to take down 'detrimental' 2m garden fence

Check Also

Ozzy, y ‘ci bionig’ o Geredigion a’r cyntaf o’i fath ym Mhrydain

Mae ci o ardal Aberystwyth yn cael ei alw’n ‘gi bionig’ yn dilyn triniaeth cwbl …

Rhiannon Roberts column: Wales aiming high before Czech Republic Women’s World Cup qualifier

A 1-1 draw obviously wasn’t the result we wanted. There’s no excuses because of the …

Overcrowded Welsh prisons putting safety at risk, say MPs

The challenges in Welsh prisons are undermining the safety of staff and prisoners, MPs warn. …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Just a moment.... Link. Coming.