google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cwpl sydd wedi’u cyhuddo o lofruddio eu hŵyr ‘wedi taro eu mab’

Advertisements

Yn gynharach ddydd Iau, clywodd y llys fod Shannon Ives wedi taro plant ac wedi gwrthod caniatáu iddyn nhw chwarae gyda theganau.

Clywodd y rheithgor yn Llys y Goron yr Wyddgrug fod Shannon Ives, Ethan, a thri o blant eraill wedi mynd i fyw gydag un o’i chwiorydd, Rachel, a’i phartner Aaron Moss ym mis Mehefin 2021.

Tra’n rhoi tystiolaeth i’r llys, holwyd Mr Moss a oedd y plant yn cael chwarae gyda theganau.

“Na, doedden nhw ddim yn cael caniatâd,” atebodd.

Dywedodd hefyd na fyddai Shannon Ives yn gadael i’r plant wylio’r teledu chwaith.

Holwyd Mr Moss a oedd erioed wedi’i gweld Shannon Ives yn cam-drin y plant, ac atebodd: “Ar ychydig o achlysuron, do.”

Dywedodd nad oedd erioed wedi ei gweld yn taro Ethan, ond ychwanegodd pan oedd dau blentyn arall yn camymddwyn, eu bod wedi cael eu gorfodi i wynebu’r wal gyda’u “dwylo uwch eu pennau”.

Dywedodd y byddai Ms Ives “ar ei ffôn” tra roedden nhw’n sefyll. Nid oedd wedi gweld hynny yn digwydd i Ethan, meddai.


BBC News

Views: 0

See also  Labour benefits row and 'merciless' killer jailed

Check Also

Osprey swallows fish hook in nest with newborn chicks

An osprey is being closely monitored after swallowing a fish hook attached to a trout. …

'Tornado-like flame' as smoke impacts major commuter route in rush hour

People are told to keep their windows closed due to smoke from an industrial fire. …

Teyrnged i ddyn 18 oed ‘oedd â’i holl fywyd o’i flaen’

Dywedodd ei deulu fod Dominic Bailey newydd gwblhau ei arholiadau Safon Uwch yn Ysgol Uwchradd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Just a moment.... Link. New wordpress website is being built and will be published soon.