google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cyngor Ceredigion i ymgynghori ar gau dwy ysgol gynradd

Fe gafodd protest ei chynnal y tu allan i bencadlys y cyngor yn Aberaeron ddydd Mawrth cyn i aelodau’r cabinet drafod dyfodol y pedair ysgol gynradd.

Daeth dros 150 o gefnogwyr yr ysgolion i leisio’u hanfodlonrwydd cyn mynd i’r Siambr, lle dywedodd yr Aelod sy’n gyfrifol am Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Wyn Thomas, mai ffactorau megis “niferoedd, capasiti gwag, cyllideb yr ysgolion a chost y disgybl o ran addysg” oedd y prif heriau.

Gan ddechrau gydag Ysgol Craig yr Wylfa, pwysleisiodd nad penderfyniad i gau’r ysgol oedd pwrpas y cyfarfod.

“‘Dw i wedi bod yn meddwl tynnu’r papur, ond bydden i’n osgoi’r cyfrifoldeb o drio ffeindio bod yr adran yn fwy cynaliadwy, bo ni’n gallu arbed arian, achos mae’n ofynnol bod pob adran yn edrych ar arbedion,” meddai.

“Galla i fyth osgoi y cyfrifoldeb o beidio gwenud hynna. Dwi’n atebol i’r cyngor am chwilio [am] arbedion a mae’n ddyletswydd arna’i i fwrw ‘mla’n â’r papurau hyn heddi, er mor anodd yw’r penderfyniadau.”


Source link

Views: 0

See also  Aaron Ramsey: Mikel Arteta an inspiration as ex-Wales and Arsenal star eyes management

Check Also

Gorlenwi carchardai Cymru a phrinder staff yn 'tanseilio diogelwch'

Mae gorlenwi a diffyg staff yng ngharchardai Cymru yn “tanseilio diogelwch staff a charcharorion”, meddai …

Cyngor Gwynedd i gadarnhau a ydyn nhw am gau ysgol leiaf y sir

Yn ôl dogfennau Cyngor Gwynedd, roedd 22 o ddisgyblion yn mynychu’r ysgol yn 2021 ac …

Apêl padlfyrddio wedi achosi poen pellach i deuluoedd mewn galar

Roedd Morgan Rogers yn 24 oed pan fu farw, a dywedodd ei mam Teresa Hall, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Just a moment.... Link. Coming.